Rhaniad Gogledd-De

Darluniad modern o'r rhaniad Gogledd-De. Mae glas yn cynnwys gwledydd y Gogledd (yr G8 a gwledydd datblygedig/y Byd Cyntaf), a choch yn cynnwys gwledydd y De.

Rhaniad economaidd-gymdeithasol a gwleidyddol bydol sy'n bodoli rhwng y gwledydd datblygedig cyfoethog, a elwir yn "y Gogledd", a'r gwledydd datblygol (yn cynnwys y gwledydd lleiaf datblygedig), a elwir yn "y De", yw'r rhaniad Gogledd-De.[1] Er lleolir y rhan fwyaf o wledydd y Gogledd yn Hemisffer y Gogledd, nid daearyddiaeth sy'n diffinio'r rhaniad yn bennaf. Mae'r Gogledd yn cynnwys pedwar o bum aelod arhosol Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ac holl aelodau'r G8, ac yn cyfansoddi y Gorllewin a'r Byd Cyntaf gyda nifer o wledydd yr Ail Fyd hefyd. Mae'r term "rhaniad Gogledd-De" dal yn gyffredin, ond mae'r termau "Gogledd" a "De" wedi'u dyddio braidd. Wrth i wledydd dod yn fwy economaidd ddatblygedig, gallent dod yn rhan o'r Gogledd beth bynnag yw eu lleoliad daearyddol, tra ystyrid unrhyw wledydd eraill nad ydynt yn bodloni'r statws datblygedig fel rhan o'r De.[2]

  1. (Saesneg) S-Cool! - GCSE Geography Revision - Quicklearn. Adalwyd ar 19 Mai, 2008.
  2. (Saesneg) North–South divide. tiscali.co.uk. Adalwyd ar 27 Mai, 2008.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search